Edrychwch ar dudalennau 10 ac 11.
Allwch chi ddweud helo a hwyl fawr yn Sbaeneg?
| Hola | Helo |
| Adiós | Hwyl Fawr |
Beth am gyfri o 1 i 10 yn Sbaeneg?
https://www.youtube.com/watch?v=ETgyBQDY4Bg
Allwch chi ddod o hyd i iaith arall ar dudalennau 10 ac 11?
Allwch chi enwi’r iaith?
Allwch chi ddod o hyd i beth yw ‘Helo’ a ‘Hwyl Fawr’ yn yr iaith Gatalaneg?
Edrychwch ar dudalen 10.

Allwch chi esbonio beth oedd y cefnogwyr pêl-droed yn ei weiddi?
Edrychwch ar dudalen 8.

Mae Gareth Bale wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed.
Siâp sffer yw pêl-droed.
Ydych chi’n gallu enwi’r siapiau isod?

Edrychwch ar y clip fideo yma i’ch helpu. https://www.youtube.com/watch?v=ZGEsQ3I2LQU&list=PUxh6ygqqPVS_DSa5coHGLrg&index=135
Allwch chi ddod o hyd i siapiau tebyg yn llyfr stori Sbaen? Ble?
Allwch chi ddod o hyd i siapiau tebyg yn eich dosbarth, tu allan, yn yr ysgol?
Beth am greu siapiau 3D?
Edrychwch ar dudalen 15.
Mae adeiladau enwog a lliwgar yn Barcelona.
Roedd y pensaer Antoni Gaudi yn hoffi dylunio adeiladau yn defnyddio mosaic a siapiau crynion.

Beth am wneud llun mosaic?
Dyma rai enghreifftiau i’ch helpu.

Weithiau mae mosaic yn dweud stori.

Mosaic ym mhentref Borth, ger Aberystwyth.
Beth am wneud mosaic ar gyfer eich dosbarth, yr ysgol, yr ardal allanol?
Edrychwch ar dudalennau 4, 5 a 6.
Beth sy’n digwydd? Allwch chi ddod o hyd i enw’r ddawns Sbaenaidd?

Gwyliwch y clipiau fideo o’r bobl yn dawnsio.
https://www.bbc.co.uk/programmes/p011mw7s
https://www.bbc.co.uk/bitesize/clips/zf3nvcw
http://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/leisure-tourism/barcelona/culture-and-heritage.html
Beth am ddysgu’r ddawns?
Mae dawnsio gwerin yn boblogaidd yng Nghymru hefyd.
https://youtu.be/G5usxv4LKy0 - dawnsio gwerin yng Nghymru
Edrychwch ar dudalen 14. Beth sy’n digwydd yn y llun?
Gwyliwch y clip fideo i glywed yr anthem (anthem genedlaethol Sbaen)
https://www.youtube.com/watch?v=2DGqtEo4CF4

Y ‘Marcha Real’ yw anthem genedlaethol Sbaen a hon yw un o’r ychydig anthemau yn y byd sydd heb eiriau! Allwch chi feddwl am eiriau addas (yn Gymraeg) ar gyfer y gytgan? Cofiwch gynnwys pethau rydych chi wedi’u dysgu am Sbaen.
Edrychwch ar dudalen 14.
Allwch chi ddod o hyd i enw’r gerddoriaeth? Beth yw enw blodyn ac anifail cenedlaethol Sbaen?
Lawrlwythwch y PDF isod:
Dewch i deithio - Sbaen - Anthem
Edrychwch ar dudalen 16 ac 17.
Beth sy’n digwydd? Ble roedd Min a Mei? Pam bod y bobl yn gweiddi “Rhedwch”?

Allwch chi ddisgrifio beth oedd y teirw yn ei wneud?
Gwyliwch y clip fideo i’ch helpu i ddisgrifio Gŵyl San Fermin – Rhediad y Teirw.
https://www.youtube.com/watch?v=q24QJxtcaz8
Cliciwch yma i lawrlwytho'r ymarfer: Dewch i deithio - Sbaen - San Fermin
Edrychwch ar dudalen 18 ac 19.
Roedd Min a Mei yng nghanol Gŵyl y Tomatina!

Beth am gael cystadleuaeth taflu tomatos? Pwy fydd yn gallu taflu bella? Beth am fesur? Cofiwch wasgu'r tomatos yn gyntaf rhag i chi frifo rhywun a pheidiwch â thaflu'r tomatos at eich ffrindiau!
Gwyliwch y clip fideo i’ch helpu chi orffen y stribed cartŵn. https://youtu.be/FEJ0JTUQkQI
Cliciwch yma i lawrlwytho'r stribed cartŵn: Dewch i deithio - Sbaen - La Tomatina