Gweithgareddau

Ydych chi’n cofio beth welodd Min a Mei ym Mhatagonia?

Rhestrwch rhai ohonynt (e.e. anifeiliaid, ffermydd anferth, plant ysgol…).

Sut mae Patagonia a Chymru yn debyg ac yn wahanol?

Cliciwch yma i ddysgu mwy: https://www.youtube.com/watch?v=pTBeRxadP7o

Trafodwch gyda’ch partner.

Ysgrifennwch rhai brawddegau.

(e.e. Mae pobl yn siarad Cymraeg ym Mhatagonia a Chymru).

Roedd Alejandro yn gallu siarad Cymraeg a Sbaeneg.

Mae llawer o bobl yn siarad Sbaeneg ym Mhatagonia.

Beth am ddysgu ychydig o Sbaeneg?

Allwch chi ddweud helo a hwyl fawr yn Sbaeneg?

HolaHelo
AdiósHwyl fawr

Beth am gyfri o 1 i 6 yn Sbaeneg?
https://www.youtube.com/watch?v=ETgyBQDY4Bg

HERIAU: Beth am rannu beth rydych wedi ei ddysgu am Batagonia gyda’r ysgol gyfan? Beth am greu cyflwyniad dosbarth? Byddwch yn barod i ateb cwestiynau am Batagonia ar ôl y cyflwyniad! Beth am e-bostio neu gael cyfarfod ar feddalwedd galwad fideo gydag ysgol Gymraeg yn Mhatagonia?

Amser / Tymheredd

[rhifedd]

2

Ble mae Patagonia?

Edrychwch ar dudalennau 3 ac 12.

Dewch o hyd i Batagonia ar fap o’r byd ac ar y glôb.

Teithio i Batagonia

Mae pobl yn hedfan i faes awyr Buenos Aires yn yr Ariannin. Buenos Aires ydy Prifddinas yr Ariannin. Yna, mae’n bosib hedfan o Buenos Aires i Batagonia. Mae 3 maes awyr yn y Wladfa – Trelew, Esquel a Comodoro.

Mae rhai pobl yn teithio mewn bws o Buenos Aires i Batagonia. Mae’r daith yn hir iawn. Mae’r daith o Buenos Aires i Drelew yn 20 awr!
Sawl awr mae’n ei gymryd i fynd o ogledd Cymru i’r de mewn car, bws, trên neu awyren?
Mae’r pellter rhwng gorllewin a dwyrain Patagonia yn enfawr. Edrychwch ar dudalen 12.
Sawl awr mae’n ei gymryd i fynd o orllewin Cymru i’r dwyrain mewn car, bws a thrên?

Y tywydd ym Mhatagonia

Mae’r haf ym Mhatagonia ym mis Rhagfyr, Ionawr a Chwefror.
Mae’r gaeaf ym Mhatagonia ym mis Mehefin, Gorffennaf ac Awst.

Pryd mae hi’n haf a gaeaf yng Nghymru?

Edrychwch ar dudalen 13.

Mae Patagonia’n sych iawn. Mae’n bwrw glaw llawer ger yr Andes ond dydy hi ddim yn bwrw glaw llawer ger y Paith.

Ble?

Glaw mewn blwyddyn (mm)

Tymheredd yr haf (°C)

Tymheredd y gaeaf (°C)

Esquel

640 mm

28

3

Trevelin

750 mm

27

4

Paso de Indios

175 mm

37

8

Trelew

190 mm

38

10

Beth yw’r tymheredd heddiw? Ydy hi’n bwrw glaw? Pa fis ydy hi? Pa dymor ydy hi?
Beth yw’r tymheredd yn yr haf ac yn y gaeaf yng Nghymru?

HERIAU: Beth am gofnodi’r tywydd yng Nghymru (e.e. lle mae’r ysgol) a’r tywydd ym Mhatagonia (e.e. Trelew) am un mis? Beth am drefnu taith i Batagonia o Gymru? Sut byddech chi’n teithio yno? Beth fydd hyd y daith? Pryd hoffech chi fynd yno? Beth fydd y tymheredd? Pa ddillad fyddech chi ei angen?

Dathlu Gŵyl y Glaniad

[symud/chwaraeon]

3

Edrychwch ar dudalennau 6, 7, 8, 15, 16.

Beth sy’n digwydd yno? Disgrifiwch y dillad a’r baneri.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am ddiwylliant Patagonia a Gŵyl y Glaniad.
https://www.youtube.com/watch?v=D2Wc7fx_elY
https://www.youtube.com/watch?v=tieaeTM1HYo

Wyddoch chi fod pobl yng Nghymru hefyd yn dathlu Gŵyl y Glaniad?

Cliciwch yma i ddysgu mwy: Dathlu Gŵyl y Glaniad yng Nghymru (e.e. Llanbedr Pont Steffan)
https://www.youtube.com/watch?v=WQ24v98vlSo

HER: Beth am ddathlu Gŵyl y Glaniad yn eich ysgol chi?
Ewch ati i greu posteri, baneri, i ddysgu dawnsio gwerin…

Cerddoriaeth Patagonia

[symud/chwaraeon]

4

Mae Alejandro wedi ymweld â Chymru.

Mae’n gallu canu yn y Gymraeg.

Cliciwch yma i glywed Alejandro yn canu yng Nghymru:
https://www.youtube.com/watch?v=VsgS3xdkcAs
https://www.youtube.com/watch?v=oWHmrrrNLOc

Beth am ddysgu’r gân ‘Calon Lân’ yn Sbaeneg?

Cliciwch yma am y geiriau: Dewch i deithio Patagonia Calon Lân

Cliciwch yma i glywed plant bach Comodoro yn ei chanu'n Sbaeneg:
https://youtu.be/mXtvkITcRiM

Cliciwch yma i glywed plant ysgolion dwyieithog Cymraeg/Sbaeneg y Wladfa yn perfformio:
https://youtu.be/hNqaLA86iFM

Edrychwch ar dudalen 20.

Beth ddysgodd Min a Mei am Eisteddfod y Wladfa?

Cliciwch yma i ddysgu mwy: https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/50129530

Yn 2015, teithiodd plant Ysgol yr Hendre i Eisteddfod Genedlaethol Caerffili. Cliciwch yma i ddysgu mwy: https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-32919137

HER: Beth am gynnal Eisteddfod Ddosbarth/Ysgol? Cofiwch ganu’r anthem! Beth am rannu eich profiadau gydag un o ysgolion Cymraeg Patagonia? Beth am drefnu te Cymreig neu ‘asado’ ar ddiwedd yr Eisteddfod?

Edrychwch ar dudalennau 9, 10 ac 11.

Sut rydyn ni’n gwybod bod pobl o Gymru wedi teithio i Batagonia?

Beth welodd Min a Mei yn Museo Historico Regional?

Oes amgueddfa yn eich pentref/ tref / dinas chi?

Mae llawer o gliwiau am fywyd pobl yn y gorffennol yng Nghymru i’w gweld yn Amgueddfa Werin Cymru. Cliciwch yma i weld rhai o’r cliwiau: https://www.youtube.com/watch?v=B90eloCLWBY

Edrychwch ar dudalen 18.

Mae Min a Mei yn ymweld ag Ysgol Y Cwm yn yr Andes.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am Ysgol y Cwm:
https://www.ysgolycwm.com/index.html

Mae Clara yn ddisgybl yn Ysgol Y Cwm ac mae hi'n siarad Sbaeneg a Chymraeg.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am Clara:
https://vimeo.com/691776240/4097e272e4

Enwau Cymraeg ym Mhatagonia

Mae llawer o arwyddion Cymraeg i’w gweld mewn pentrefi a threfi ym Mhatagonia.

Dyma rai enwau sydd i’w gweld yn y Gaiman.

  • Cartref Taid (amgueddfa)
  • Llyfrgell Berwyn
  • Tŷ Nain (tŷ te)
  • Tŷ Te Plas y Coed
  • Gwesty Tywi
  • Tŷ Gwyn (gwesty)
  • Siop Fara
  • Capel Bethel
  • Tafarn Las

Pam tybed?

HER: Beth am ddysgu mwy am hanes eich ardal leol? Beth oedd yn digwydd yn y gorffennol yn yr ardal? Ewch o amgylch yr ardal fel ditectif i chwilio am gliwiau! Edrychwch ar enwau strydoedd, enwau tai…