Penderfynodd Min a Mei roi enw Oslo ar y ci lloches.
Gair sy’n disgrifio rhywbeth ydy ansoddair. Er enghraifft, llyfr gwyrdd
Cymhariaeth/cyffelybiaeth
ydy cymharu rhywbeth gyda rhywbeth arall. Er enghraifft, gwyn fel eira.
Edrychwch ar dudalen 2.
Allwch chi ddod o hyd i ansoddeiriau a chyffelybiaethau?
Ysgrifennwch yr ansoddeiriau a’r cyffelybiaethau yn yr amlinelliad o Oslo.
Meddyliwch am fwy o ansoddeiriau a chyffelybiaethau.
Edrychwch ar y lluniau o Oslo yn y llyfr i’ch helpu (Tudalennau 2, 3, 4, 5, 22 a 23).
Llenwch yr amlinelliad o Olso gydag ansoddeiriau a chymariaethau.

Defnyddiwch yr ansoddeiriau a chyffelybiaethau yn yr amlinelliad i ysgrifennu brawddegau i ddisgrifio Oslo.
Er enghraifft:
Ci blewog oedd Oslo.
Edrychai Oslo fel blaidd.
Cliciwch yma i lawrlwytho copi: Dewch i deithio - Norwy - Oslo
Edrychwch ar dudalen 13.
Allwch chi ddod o hyd i’r fwydlen? Beth sydd ar y fwydlen? Beth ydy pris….?
Cyn gadael y bwyty talodd Mei am y bwyd gydag arian a chafodd newid.
Dewiswch fwyd i chi eich hun o’r fwydlen isod. Beth oedd cyfanswm eich bwyd?

Bwydlen
Sudd oren = 15c
Ysgytlaeth = 15c
Dŵr = 10c
Brechdan = 20c
Creision = 10c
Cacen lemwn = 15c
Cacen siocled = 15c
Pa ddarnau o arian allwch chi ddefnyddio i brynu….?
Edrychwch ar y fwydlen:
Dewiswch ddiod a rhywbeth i’w fwyta i chi eich hun. Beth oedd cyfanswm y bwyd?
Dewiswch ddiod a rhywbeth i’w fwyta i chi a’ch ffrind. Beth oedd cyfanswm y bwyd?
Faint o newid byddwch yn ei gael….?
Edrychwch ar dudalen 6. Mae tai lliwgar iawn yn Norwy.
Mae tai lliwgar iawn yn Aberaeron yng Nghymru.
Edrychwch ar luniau Rhiannon Roberts, arlunwraig o Gymru.
https://www.rhiannonart.co.uk
Tynnwch luniau rhai o’r tai yn Norwy ac yn Aberaeron. Cofiwch eu lliwio/paentio yn lliwgar!
Dyma rai enghreifftiau i’ch helpu.


Mae gan Norwy wisg draddodiadol.
Mae pobl hefyd yn gwisgo gwisg draddodiadol i ddawnsio.

Gwyliwch y clip fideo o’r bobl yn dawnsio.
https://www.youtube.com/watch?v=VFfRPVTw3pI
– dawnsio gwerin yn Norwy
Mae dawnsio gwerin yn boblogaidd yng Nghymru hefyd.
Mae llawer o ddawnsfeydd gwerin gwahanol fel Jac y Do a Ffansi Ffarmwr.
Mae gan eglwysi yn Norwy siâp arbennig.
Mae rhai eglwysi Norwyeg yng Nghymru hefyd.
Pan ddaeth pobl o Norwy i Gymru i weithio yn y diwydiant glo fe wnaethon nhw adeiladu eglwysi.
Roedden nhw’n mynd i’r eglwysi i addoli a chyfarfod ei gilydd.

Roedd awdur enwog yn addoli yn eglwys Norwyeg yng Nghaerdydd.
Ydych chi’n cofio ei enw? Ydych chi’n gallu enwi rhai o’r llyfrau ysgrifennodd?
Edrychwch ar y we i weld os ydych yn gwybod ble mae eglwysi Norwyeg yng Nghymru.
Ar fap o Gymru, labelwch yr eglwysi.
FJORD
Mae Norwy yn enwog am ‘fjord’.
Edrychwch ar dudalennau 10 ac 11 yn y llyfr.
Tynnwch lun fjord a llyn.
Sut mae’r ddau yn wahanol?