Gweithgareddau

Ydych chi’n cofio beth welodd Min a Mei yn Nepal?

Edrychwch ar dudalennau 7, 9, 12, 14, 15, 18, 20.

Mae Min a Mei eisiau ysgrifennu neges-destun/e-bost/cardiau post i’w hanfon at eu ffrindiau yng Nghymru.

Cyn ysgrifennu, beth am sgwrsio gyda’ch partner, fel y byddai Min neu Mei yn sgwrsio gyda’u ffrindiau. Defnyddiwch y berfau cryno hyn i’ch helpu.

Beth am ysgrifennu brawddegau i helpu Min a Mei ddisgrifio beth welson nhw yno. Cofiwch gychwyn y neges gyda ‘Namaste!”


HER: Dywedodd Bibek fod yr Himalaia yn gartref i lawer o anifeiliaid arbennig, e.e. llewpard eira. Beth am ddysgu mwy am fywyd gwyllt Cymru? Sut mae Parciau Cenedlaethol Cymru / Yr Wyddfa yn gartref i lawer o anifeiliaid a phlanhigion prin Cymru, e.e. lili’r Wyddfa?

Coginio Masala Chai

[rhifedd]

2

Edrychwch ar dudalen 16. Dewch o hyd i’r rhestr cynhwysion.

Yn gyntaf, mae’n rhaid mesur y cynhwysion yn ofalus.

Edrychwch ar y clip fideo yma i’ch helpu
https://www.youtube.com/watch?v=RvoVUgiAB58

HER:
Mesurwch uchder eich partner. Mesurwch uchder y dosbarth. Edrychwch ar dudalennau 5, 7 ac 13. Beth yw uchder mynydd uchaf Cymru? Beth yw uchder mynydd uchaf y byd? Oes mynyddoedd neu fryniau o gwmpas yr ysgol? Beth yw uchder y bryniau/mynyddoedd hyn? Edrychwch ar fap. Ble mae prifddinas Cymru? Beth yw uchder prifddinas Cymru?

Addurniadau a Mygydau

[celf/crefft]

3

Edrychwch ar dudalennau 20 a 21.

Beth sy’n digwydd yno? Disgrifiwch y dillad a’r gemwaith.

Mae gwisgoedd, gemwaith a mygydau yn rhan bwysig o ddiwylliant Nepal.

Beth am wneud gemwaith a mygydau eich hunan?

Beth am ddefnyddio defnyddiau wedi’u hail-gylchu?

Beth am ddefnyddio eich gemwaith a’ch mygydau i gynnal dathliad o ddiwylliant Nepal?

Cliciwch yma i weld dawns y mynachod:
https://www.youtube.com/watch?v=QwED5Il1kcE

Cliciwch yma i wylio dawnsio traddodiadol Nepal:
https://www.youtube.com/watch?v=6MRxCSM_k74

Cliciwch yma i ddysgu mwy am fywyd yn Nepal. Dyma ddiwrnod ym mywyd
merch o’r enw Manisha. Sut mae ei diwrnod yn wahanol i'ch un chi?
https://youtu.be/ZKBxxuO4joE

HER: Beth am ddysgu mwy am Eisteddfod Ryngwladol Llangollen? Cliciwch yma i ddysgu mwy: https://international-eisteddfod.co.uk/cy/ Dewch o hyd i blant a phobl rydych chi’n eu hadnabod sydd wedi bod yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.

Gemau a Chwaraeon Nepal

[symud/chwaraeon]

4

Edrychwch ar dudalen 18.

Beth yw enw gêm genedlaethol Nepal?

Beth am ddysgu’r gêm?

Cliciwch yma: https://youtu.be/oBq46ovrObY

Edrychwch ar dudalen 19.

Beth ydy Dandi Biyo?

Cliciwch yma i ddysgu mwy: https://www.youtube.com/watch?v=oI8FjOEHgBo

HER: Dewch o hyd i ffeithiau diddorol am chwaraeon Nepal, e.e. chwaraewyr pêl-foli enwog. Beth am chwarae’r gemau hyn gyda’ch ffrindiau a’ch teuluoedd? Sut mae gemau a chwaraeon Nepal yn debyg ac yn wahanol i gemau a chwaraeon Cymru?

Hindwaeth a Bwdhaeth

[dyniaethau]

5

Edrychwch ar dudalennau 14 ac 15.

Beth welodd Min a Mei yn Kathmandu?

Pam fod Kathmandu yn cael ei hadnabod fel ‘Dinas y Temlau’?

Hindwaeth

Mae’r Hindwiaid yn addoli mewn teml ac hefyd yn addoli gartref.

Enw teml Hindwiaid ydy’r Mandir. Mae’r Hindwiaid yn dathlu llawer o wyliau, e.e. Gŵyl Divali.

Cliciwch yma i wybod mwy:
https://www.youtube.com/watch?v=o-s0mN5P8jo

https://youtu.be/sgLogQ7c3wU

Bwdhaeth

Mae dilynwyr Bwdhaeth yn addoli gartref ac hefyd mewn teml.

Enw teml Bwdhaeth ydy’r Vihara.

Cliciwch yma i wybod mwy:
https://www.bbc.co.uk/teach/class-clips-video/religious-studies-ks1-the-buddhist-story-of-siddhartha-and-the-swan-and-the-monkey-king/zfkcwty

https://www.bbc.co.uk/bitesize/topics/zh4mrj6/articles/zdbvjhv

HERIAU: Mae temlau i’w gweld yng Nghymru hefyd. Dewch o hyd i demlau yng Nghymru. Oes teml yn eich pentref/tref/dinas chi? Beth am ymweld â theml? Cliciwch yma i ddysgu mwy am gymuned Hindwaidd ‘Skanda Vale’ yn Llanpumsaint:
https://www.skandavale.org