Gweithgareddau

Ydych chi’n cofio beth welodd Min a Mei yn Kenya?

Edrychwch ar dudalennau 8, 9, 14, 15, 16 ac 18.

Mae Min a Mei eisiau ysgrifennu e-byst/cardiau post i’w hanfon at eu ffrindiau yng Nghymru.

Cyn ysgrifennu, beth am sgwrsio â’ch partner, fel y byddai Min neu Mei yn sgwrsio gyda’u ffrindiau. Defnyddiwch y berfau cryno hyn i’ch helpu.

Beth am ysgrifennu brawddegau i helpu Min a Mei ddisgrifio beth welson nhw yno.

HER: Mae llawer o bobl yn dod ar eu gwyliau i Gymru. Beth am greu poster ‘Gwyliau yng Nghymru!’ Cofiwch gynnwys ffeithiau diddorol am Gymru, e.e. parciau cenedlaethol, traethau, baner Cymru, siarad Cymraeg, ac ati. Am syniadau, edrychwch ar wefan Croeso Cymru: https://www.croeso.cymru/cy

Coginio Mkate wa Maji

[rhifedd]

2

Edrychwch ar dudalen 21 ar Ffeil o Ffeithiau Eliffantod.

Dewch o hyd i bwysau'r eliffant.

Beth am ymarfer pwyso cynhwysion, drwy goginio Mkate wa Maji?

Yn gyntaf, mae rhaid mesur y cynhwysion yn ofalus.

Cynhwysion:

  • 1 cwpan o ddŵr
  • 2 gwpan o flawd
  • 2 lwy de o bowdr pobi
  • 1/2 llwy de o halen
  • 3 llwy de o siwgr
  • 1 wy

Edrychwch ar y clip fideo yma i’ch helpu:
https://www.youtube.com/watch?v=jJTy2773X8g
https://cookpad.com/uk/recipes/2581286-pan-cakes-mkate-wa-maji

YNA:

  1. Cymysgwch y blawd, powdr pobi, halen, siwgr a'r wy.
  2. Troellwch y gymysgedd nes ei fod yn dew.
  3. Gyda chymorth oedolyn, twymwch y badell goginio nes ei bod yn boeth ac yna arllwyswch olew i’r badell.
  4. Gyda chymorth oedolyn, arllwyswch y gymysgedd yn ddarnau cyfartal i’r badell.
  5. Pan welwch swigod ar ben y crempogau a’r ochrau yn dechrau sychu, trowch y crempogau drosodd.
  6. Coginiwch am tua 1 munud nes bod y gwaelod yn euraidd.
  7. Bwytewch a mwynhewch!

Pryd mae pobl yn bwyta crempogau yng Nghymru? Pam?

HERIAU:
Edrychwch ar dudalen 10. Faint o’r gloch mae Gitonga yn mynd i’r ysgol? Faint o’r gloch ydych chi’n cychwyn a gorffen ysgol? Pryd mae amser chwarae Gitonga?

Edrychwch ar dudalen 10. Roedd Gitonga yn hoffi rhedeg. Pa mor gyflym ydych chi’n gallu rhedeg 500 metr/ 1 km? Mesurwch 500m/1km o hyd gyda thâp mesur. Gan ddefnyddio oriawr/cloc ar i-pad, mesurwch yr amser mae’n gymryd i chi redeg 500m/1km.

Creu addurniadau a gemwaith

[celf/crefft]

3

Edrychwch ar dudalennau 8, 9, 16 ac 17.

Beth sy’n digwydd yno? Disgrifiwch beth mae pobl yn ei wisgo.

Mae gwisgoedd a gemwaith yn rhan bwysig o ddiwylliant llwyth y Maasai yn Kenya.

Ydych chi’n gallu gwneud gemwaith Maasai eich hunan? Beth am ddefnyddio defnyddiau ail-gylchu?

HER: Mae llawer o bobl hefyd yn gwneud gemwaith yng Nghymru. Beth am edrych ar waith rhai ohonynt? Beth sydd yn arbennig amdanynt?

Edrychwch ar dudalen 10.

Beth mae Min a Mei yn ei wneud gyda llwyth y Maasai?

Gwyliwch y clip fideo o’r bobl yn dawnsio.
https://www.bbc.co.uk/programmes/p011n98m
Beth am ddysgu dawns neidio y Maasai? Beth am gael cystadleuaeth neidio ar iard yr ysgol?
https://youtu.be/_MO9B2jLOgw

Edrychwch ar dudalennau 8 a 9.

Dewch o hyd i’r offerynnau Affricanaidd.

Beth am roi cynnig ar greu offerynnau a/neu gerddoriaeth ar gyfer y dawnsio?

HER: Beth am ddysgu cân Swahili: https://youtu.be/vUrVeRGo5IM

Dyma'r geiriau i chi: Dewch i deithio - Kenya - Jambo Bwana

Ble mae Kenya?

Edrychwch ar glawr y llyfr.

Edrychwch ar fap o’r byd mewn atlas. Ydych chi’n gallu gweld cyfandir Affrica?

Edrychwch ar y glôb. Ydych chi’n gallu gweld cyfandir Affrica? Ydych chi’n gallu gweld Kenya?

Mae 7 cyfandir yn y byd.

Beth ydy cyfandir? Darn mawr o dir gyda llawer iawn o wledydd arno.

Ydych chi’n gallu enwi 7 cyfandir y byd? Defnyddiwch atlas a glôb i’ch helpu.

Enw un cyfandir ydy Affrica.

Beth am ddarganfod rhai ffeithiau diddorol am gyfandir Affrica? Tynnwch amlinelliad o gyfandir Affrica a rhowch eich ffeithiau tu mewn.


HER: Beth am greu map enfawr o gyfandir Affrica yn yr awyr agored?

Cofiwch ddangos ble mae Kenya!

Edrychwch ar dudalen 6. Dewch o hyd i faner Kenya.

Beth sy'n arbennig am faner Kenya?

Mae lliwiau baner Kenya yn dangos diwylliant Kenya.

  • coch = coch yw lliw gwaed pawb
  • gwyrdd = tir ffrwythlon gwyrdd (e.e. ar gyfer tyfu te!)
  • du = pobl gynhenid Kenya
  • arfau = llwyth y Maasai (diwylliant)

Beth am greu baner Kenya eich hunan?

HER: Beth am ddarganfod sut mae baner Cymru yn dangos diwylliant Cymru? Pam bod draig goch ar faner Cymru? Cliciwch yma i ddysgu mwy: https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/47258649