Yn y stori dysgodd Min a Mei lawer o ffeithiau am India.
Ydych chi’n cofio beth welodd Min a Mei yn India?
Er enghraifft, edrychwch ar dudalen 12.
Ble mae Min a Mei? Beth welson nhw yno?
Rhestrwch ar lafar a/neu yn ysgrifenedig rai o’r pethau ddysgodd Min a Mei am India. Tynnwch luniau rhai o’r pethau a welson nhw.
Taj Mahal |
Tuk Tuk, Rickshaw |
Afon Ganges |
...... |
...... |
...... |
Beth am ysgrifennu rhai brawddegau i helpu Min a Mei ddisgrifio India i’w ffrindiau?
Er enghraifft:
Prifddinas India ydy New Dehli.
Mae pobl yn siarad Hindi a Punjabi yn India.
Edrychwch ar dudalen 9.
Allwch chi ddweud Helo yn Hindi a Punjabi?
Cliciwch ar y dolenni hyn i glywed Hindi a Punjabi:
Hindi:
https://www.youtube.com/watch?v=dqte2ZBKbic
https://www.youtube.com/watch?v=f0RUWsEDLfc
Punjabi: Yr Wyddor yn Punjabi: https://www.youtube.com/watch?v=vDh06C26Jaw
Beth am gyfri o 1 i 10 yn Hindi?
https://www.mindurhindi.com/basic-words-and-phrases-in-hindi/hindi-numbers-1-10/
HER: Beth am greu ffeil o ffeithiau am India? Oes bwytai Indiaidd yn eich pentref/tref? Beth am roi cynnig ar siarad Hindi/Punjabi pan fyddwch mewn bwyty Indiaidd tro nesaf? Beth am roi cynnig ar ddarlunio'r Taj Mahal?
Roedd Min a Mei mewn bwyty Indiaidd.
Allwch chi helpu Min a Mei i ddewis bwyd o’r fwydlen?

Bwydlen Taj Mahal
Popadom = 30c
Onion Bhajee = 30c
Begun Baja = 40c
Sheek Kebab = 30c
Tandoori Chicken = 50c
Chicken Tikka = 50c
Prawn Biryani = 55c
Chappati = 15c
Coconut Pilau Rice = 15c
Bwyd Min |
Bwyd Mei |
e.e. Popadom = 30c |
e.e. Onion Bhajee = 30c |
Beth ydy cyfanswm cost bwyd Mei?
Beth ydy cyfanswm cost bwyd Min?
Beth ydy cyfanswm cost bwyd Mei a Min gyda’i gilydd?
Pa ddarnau arian gall Min a Mei ddefnyddio i dalu am eu bwyd?
Cliciwch yma i lawrlwytho'r fwydlen:
Dewch i deithio - India - Bwydlen
HER: Beth am gyfri faint o newid fyddai Min a Mei yn ei gael os byddant yn talu am eu bwyd gyda gwahanol ddarnau o arian? Beth am greu bwydlen eich hun ar gyfer eich caffi yn y dosbarth? Ydych chi’n cofio beth ydy'r enw ar yr arian maen nhw’n ddefnyddio yn India?
Edrychwch ar dudalen 14.
Ble mae Min a Mei? Beth sy’n digwydd yno?
Beth am ddathlu Holi Hai yn yr ysgol? Cyn dathlu mae’n rhaid paratoi.
Gwnewch losin barfi gyda help oedolyn, gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn:
Cynhwysion:
Gwneud:
Nodyn i’r oedolyn: Mae’r losin hyn yn cael eu mwynhau adeg Holi. Ystyrir bod cnau coco’n gynhwysion arbennig am eu bod yn cael eu cysylltu â phuriad. Gofynnwch ynghylch alergeddau cnau cyn dechrau’r gweithgaredd hwn.
HER: Pa fwydydd ydych chi’n gogino, ei rannu a’i fwyta wrth ddathlu? Pam ydych chi’n bwyta’r bwyd?
Edrychwch ar dudalennau 14.
Ble mae Min a Mei? Beth sy’n digwydd yno?
Beth am chwarae gêm lliwiau Holi Hai?

Cyfarwyddiadau:
Cerddoriaeth Indiaidd:
Edrychwch ar dudalen 15.
Beth mae Min a Mei yn ei weld a’i glywed?
Cliciwch yma i glywed rhai o’r offerynnau: https://www.youtube.com/watch?v=1mYfs1kfNo4
Mae Ghazalaw yn ddathliad o’r canu Ghazal Indiaidd a’r traddodiad gwerin Cymreig. Mae’r canwr Tauseef Akhtar o Mumbai a’r gantores Gwyneth Glyn yn dod â'r ddau draddodiad ynghyd!
Gwyliwch y clip fideo i weld a chlywed Gwyneth a Tauseef yn canu un o'u caneuon:
(Moliannwn) https://youtu.be/1PXyS-Pn_SY
HERIAU: Crëwch gerddoriaeth Indiaidd. Gwrandewch ar ddetholiad o gerddoriaeth Indiaidd.
Rhowch gynnig ar ddawnsio Bollywood: Bollywood https://www.youtube.com/watch?v=3NomZw-KD34
Edrychwch ar dudalennau 13, 14 ac 15.
Beth ydych wedi ei ddysgu am y grefydd Hindwaeth yn y stori?
Gwyliwch clipIiau fideo o’r Hindwiaid yn dathlu Holi Hai.
Er enghraifft:
https://www.youtube.com/watch?v=AbFIkJ8KFZ8
https://www.youtube.com/watch?v=JOh98r9XiQc
https://www.youtube.com/watch?v=p4ookFsYoDg
Disgrifiwch i’ch partner sut mae’r Hindwiaid yn dathlu Gŵyl Holi.
Cofiwch ddefnyddio geiriau pwysig fel ‘mandir… duw Krishna… losin barfi…’
Beth am ddysgu mwy am Holi Hai?
Gwrandewch ar y stori yma:
https://www.youtube.com/watch?v=rsxzHsMjeII
Mae llawer o bobl yn dilyn crefyddau gwahanol yng Nghymru. Cristnogaeth ydy’r grefydd fwyaf poblogaidd. Beth am ddarganfod pa grefyddau sydd yn eich pentref/tref chi? Oes ganddyn nhw ddathliadau? Pam eu bod yn dathlu?
HERIAU
Crëwch fodel 3D o’r Mandir/Krishna, ayyb., e.e. modroc/clai
Yn yr awyr agored – arbrofwch gyda gwahanol liwiau, chwarae rôl gan daflu powdr lliw/chwsitrellu dŵr dros eich gilydd – ‘Gŵyl y Lliwiau’.
Dysgwch am wyliau eraill y grefydd Hindwaeth, e.e. Gwyl y Goleuni – Diwali – https://www.youtube.com/watch?v=e0n2zXeT2TI