Gweithgareddau

Chwedlau / Pwyleg

[llythrennedd]

1

Edrychwch ar dudalen 6.

Roedd Min a Mei wrth eu bodd yn dysgu am chwedlau Gwlad Pwyl.
Beth am ail-ddarllen hanes Lena yn adrodd chwedl enwocaf Krakow.

Ar ôl darllen y chwedl, ewch ati i actio’r chwedl.

Bydd angen i chi benderfynu pwy fydd yn actio’r cymeriadau canlynol:

  • draig Wawel
  • marchogion
  • crydd
  • dafad

Cofiwch ddefnyddio propiau o’r ardal chwarae rôl neu’r ardal tu allan!

Edrychwch ar dudalen 15.

Dewch o hyd i beth yw ‘Helo’ a ‘Hwyl Fawr’ yn Pwyleg.
Allwch chi ddweud ‘Helo’ a ‘Hwyl Fawr’ yn Pwyleg?

Cliciwch ar y clip fideo yma i’ch helpu:
https://www.youtube.com/watch?v=rnXYW1RcLUg

Oes rhywun yn eich dosbarth sy’n gallu siarad Pwyleg? Gofynnwch iddyn nhw eich helpu chi.

HER: Mae llawer o chwedlau am ddreigiau yng Nghymru. Un chwedl enwog yw chwedl Dinas Emrys. Cliciwch yma i ddysgu mwy am y chwedl:
https://www.youtube.com/watch?v=8nr1f-Oytfs

Bwyd Pwyleg

[rhifedd]

2

Edrychwch ar dudalen 9.

Gwelodd Min a Mei rai bwydydd traddodiadol Pwyleg mewn marchnad yn Warsaw.

Pierogi oedd ffefryn Lena. Pa un yw eich fferfryn chi?

Beth am goginio pizza Pierogi!
Cofiwch fesur y cynhwysion yn ofalus.

Cynhwysion

  • toes o’ch dewis chi
  • 95g tatws stwnsh
  • ¼ llwy de powdr nionyn
  • ¼ llwy de powdr garlleg
  • 100g caws Cheddar wedi’i gratio
  • 400g caws Mozzarella

Dull:

  1. Cynheswch y ffwrn i 240°C.
  2. Pliciwch y tatws. Berwch y tatws. Stwnshwch y tatws gyda’r caws, powdr garlleg a nionyn.
  3. Siapwch does y pizza. Gorchuddiwch y toes gyda’r tatws stwnsh.
  4. Ychwanegwch gaws Mozzarella ac ychydig bach o gaws coch ar ben y cyfan.
  5. Coginiwch am 20 munud.

HER: Mae llawer o fwydydd Pwyleg i’w prynu mewn siopau yng Nghymru. Edrychwch ar y pecynnau bwyd. Mesurwch a phwyswch y bwyd.

https://vimeo.com/719624218/1f164239a4

Crefftau Pwyleg

[celf/crefft]

3

Edrychwch ar dudalennau 16 ac 17.

Beth welodd Min a Mei yng nghartref Babcia Oskar?

Beth am roi cynnig ar wycinaki?

Gwyliwch y fideo i gael syniadau:
https://www.youtube.com/watch?v=TX_c7FEIVrc

Roedd Oskar hefyd yn addurno wyau er mwyn eu rhoi i ffrindiau adeg y Pasg.
Pisanki yw yr enw ar yr wyau Pasg sydd wedi’u haddurno.

Beth am roi cynnig ar wneud Pisanki?

Gwyliwch y fideo i gael syniadau:
https://www.youtube.com/watch?v=AMYBRHXvKL8
https://www.youtube.com/watch?v=rDTvaK_39jk

HER: Mae pobl yn rhoi wyau i’w gilydd yng Nghymru hefyd adeg y Pasg. Sut ydych chi’n dathlu’r Pasg? Ydych chi’n gwneud addurniadau a rhoi anrhegion i bobl?

‘Diwrnod Smigus-Dyngus’

[symud/chwaraeon]

4

Edrychwch ar dudalen 18.

Ble mae Min a Mei? Beth sy’n digwydd?

Mae diwrnod Smigus-Dyngus yn digwydd ar ddydd Llun y Pasg yng Ngwlad Pwyl.

https://www.youtube.com/watch?v=p0wnsTDYv38

Beth am ail-greu ‘Diwrnod Smigus-Dyngus’ yn yr ysgol?

Mwynhewch y ‘frwydr ddŵr’!

Edrychwch ar dudalen 19.

Gwelodd Min a Mei y bugeiliaid yn gwisgo’u gwisgoedd traddodiadol.

Mae pobl yn gwisgo’u gwisgoedd traddodiadol i ddawnsio hefyd.

Cliciwch yma i weld hyn:
https://www.youtube.com/watch?v=BXYKkb-SynM&list=RDBXYKkb-SynM&index=1

Rhowch gynnig ar ddysgu dawns draddodiadol Pwyleg!

HER: Mae rhai pobl yn gwisgo gwisgoedd traddodiadol yng Nghymru hefyd. Dewch o hyd i pryd mae hyn yn digwydd. Mae dawnsio gwerin yn boblogaidd yng Nghymru hefyd.
https://youtu.be/G5usxv4LKy0
Rhowch gynnig ar ddysgu’r ddawns.

Gwlad Pwyl

[llythrennedd]

5

Edrychwch ar dudalennau 12 ac 13.

Beth yw lliwiau baner Gwlad Pwyl? Ble mae Cymru ar y map?
Ydych chi’n gallu enwi’r gwledydd sydd yn ffinio gyda Gwlad Pwyl?
Dewch o hyd i enw prifddinas y gwledydd hyn. Defnyddiwch atlas neu glôb i’ch helpu.
Disgrifiwch i’ch ffrind ble mae Gwlad Pwyl ar y map.

Edrychwch ar dudalennau 11, 15 a 20.

Gwelodd Min a Mei lawer iawn o goedwigoedd, mynyddoedd a llynnoedd.

Beth mae pobl yn ei wneud ar fynyddoedd a llynnoedd Gwlad Pwyl?

https://www.youtube.com/watch?v=M4bcUroqbq8

Mae llawer o lynnoedd a mynyddoedd yng Nghymru. Ydych chi’n gallu enwi rhai?
Beth mae pobl yn ei wneud ar fynyddoedd a llynnoedd Cymru?

Edrychwch ar dudalen 4.

Ble mae Min a Mei?
Mae dros 500 o gestyll yng Ngwlad Pwyl. Mae llawer iawn o gestyll hefyd yng Nghymru.
Sawl castell ydych chi’n gallu ei enwi? Pa gastell sydd agosaf i’r ysgol?

Edrychwch ar dudalennau 10 ac 11.

Pam bod lluniau a cherfluniau o eryrod ymhobman yng Ngwlad Pwyl?

Rhowch gynnig ar ddisgrifio Gwlad Pwyl i ddosbarth arall yn yr ysgol, e.e. gwneud posteri, pamffledi, cyflwyniad digidol.

HER: Mae llawer iawn o bethau diddorol i’w gweld yng Nghymru. Beth am greu poster/taflen wybodaeth/ fideo i Min a Mei ei ddefnyddio i ddisgrifio Cymru wrth iddynt deithio o wlad i wlad?