Clywodd Min a Mei 2 iaith newydd wrth deithio drwy Ffrainc a Llydaw.
Ydych chi’n cofio beth oedden nhw?
Edrychwch ar dudalen 7.
Dewch o hyd i beth yw ‘Helo’ ac ‘Hwyl Fawr’ yn Ffrangeg.
Allwch chi gyfarch yn Ffrangeg?
Cliciwch ar y clip fideo yma i’ch helpu:
https://vimeo.com/681065395/c032c264ff
Beth am geisio cyfri o 1 i 5 yn Ffrangeg?
Cliciwch ar y ddolen i’ch helpu:
https://www.bbc.co.uk/bitesize/clips/zrdg9j6
Edrychwch ar dudalen 7 eto.
Beth am sgwrsio yn Ffrangeg gyda’ch partner?
Rhowch gynnig ar archebu croissant yn Ffrangeg.
Beth am wneud hyn yn yr ardal ‘chwarae rôl’?
Edrychwch ar dudalennau 20 a 21.
Dewch o hyd i beth yw ‘Hwyl Fawr’ yn Llydaweg.
Ydy Llydaweg yn debyg i’r Gymraeg? Edrychwch am gliwiau ar dudalen 20.
Beth am geisio cyfri o 1 i 10 yn Llydaweg!
Gwyliwch y fideo hwn i’ch helpu:
https://vimeo.com/691776570/bfa6af89ef

HER: Sawl iaith ydych chi’n gallu siarad nawr? Beth am geisio dweud ‘Hwyl fawr’ mewn 4 iaith! Beth am geisio cyfri i 5 mewn mwy nag un iaith?
Mae 60 munud mewn 1 awr.
Beth ydych chi’n gallu ei wneud mewn 1 munud? Rhestrwch rai pethau.
Beth ydych chi’n gallu ei wneud mewn 60 munud? Rhestrwch rai pethau.
Edrychwch ar dudalennau 10 ac 11.

Beth ydy’r ffordd gyflymaf o deithio o Bordeaux i Paris?
Beth ydy’r amser teithio mewn car o Bordeaux i Paris?
Faint o amser mae’n gymryd i chi deithio i’r ysgol?
Ydy’r daith yn llai neu’n fwy nag awr?
Sut ydych chi’n teithio i’r ysgol?
Edrychwch ar dudalen 15.

Sawl milltir beiciodd Geraint Thomas yn y ‘Tour de France’ yn 2018?
Ydych chi wedi rhedeg milltir? Beth am roi cynnig arni? Pa mor bell fydd rhaid i chi redeg o gwmpas yr ysgol?
HER: Dewiswch 2 le yng Nghymru (e.e. Caerdydd a lleoliad eich ysgol).
Dewch o hyd i’r pellter rhwng y ddau le.
Dewch o hyd i amser teithio rhwng y 2 le wrth gerdded, beicio, teithio mewn car a theithio ar drên.
Beth sy’n digwydd ar dudalennau 16 ac 17?
Rhestrwch yr holl bethau a welwch ar y tudalennau.

Gwyliwch y fideo i glywed y gerddoriaeth: https://www.youtube.com/watch?v=3Ri2fkLT2qs
Sut rydyn ni yng Nghymru yn dathlu ‘La Fête Nationale’/ Dydd Gŵyl Dewi?
Beth rydyn ni’n ei wisgo? Beth rydyn ni’n ei fwyta?
Beth sy’n digwydd ar dudalennau 18 ac 19?

Mae llawer o bentrefi a threfi yng Nghymru wedi gefeillio gyda phentrefi a threfi yn Llydaw.
Mae pentref Crymych wedi gefeillio gyda thref Ploveilh.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy.
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35531559
Mae pobl o Lydaw yn dod draw i Gymru ac mae pobl o Gymru yn mynd draw i Lydaw.
Beth am ddysgu dawns draddodiadol Lydaweg?
Cliciwch yma i ddysgu mwy:
https://www.youtube.com/watch?v=yDOgwf-g0VQ
HER: Beth am gynnal diwrnod Ffrengig neu Lydaweg yn yr ysgol? Beth am roi gwahoddiad i aelodau o’r gymuned? Cofiwch ddawnsio a bwyta yn ystod y dydd!
Edrychwch ar dudalen 8.
Beth ydy enw’r gêm maen nhw’n chwarae?

Beth am ddysgu chwarae’r gêm?
Cliciwch ar y fideo: https://www.youtube.com/watch?v=IjmLFKlVHlk
Edrychwch ar dudalen 15.
Mae beicio yn boblogaidd iawn hefyd yn Ffrainc.
Beth ydy enw’r ras feicio enwog sy’n gorffen yn Ffrainc?
Roedd Min a Mei yn hoffi beicio.
Pam fod Min a Mei yn gwisgo helmed wrth feicio?
Pa chwaraeon ydych chi’n hoffi ei wneud?
Sut ydych chi’n cadw’n ddiogel wrth eu chwarae?
Edrychwch ar dudalen 9.
Pa chwaraeon eraill sy’n cael eu chwarae yn Ffrainc?
HER: Beth am gymharu chwaraeon Ffrainc a Chymru? (e.e. pêl-droed, rygbi, tennis). Beth sy’n debyg a beth sy’n wahanol rhyngddynt? Dewch o hyd i ffeithiau diddorol am y chwaraewyr a’r gemau.
Gwelodd Min a Mei lawer o adeiladau diddorol wrth deithio drwy Ffrainc a Llydaw.
Edrychwch ar dudalennau 5, 12, 13, 14, 18.
Disgrifiwch i’ch partner beth rydych chi’n ei weld.
Edrychwch ar dudalen 13.
Beth ydy’r 6 pheth sydd i’w gweld ym Mharis?
Dewiswch un ohonynt. Tynnwch ei lun a cheisiwch ddod o hyd i ffaith ddiddorol amdano.

Sut mae bywyd bob dydd yn Ffrainc yn debyg ac yn wahanol i fywyd bob dydd yng Nghymru?
Teithio? Siopa? Bwyd?

HER: Beth sydd i’w weld yng Nghymru?
Pa 6 pheth fyddwch chi’n dymuno i bobl Ffrainc a Llydaw ei weld yng Nghymru?