Gweithgareddau

Roedd Min yn gallu siarad 3 iaith sef Cymraeg, Saesneg a Mandarin.

Sawl iaith allwch chi siarad?

Edrychwch ar dudalen 19.

Dewch o hyd i beth yw ‘Helo’ ac ‘Hwyl Fawr’ yn Mandarin.

Allwch chi ddweud ‘Helo’ ac ‘Hwyl Fawr’ yn Mandarin?

Cliciwch ar y clip fideo yma i’ch helpu:
https://vimeo.com/694935408/81b6043011

Beth am geisio cyfri o 1 i 5 yn Mandarin?

Cliciwch ar y ddolen i’ch helpu: https://www.youtube.com/watch?v=WoKI-FUQRGw

Edrychwch ar dudalennau 8 a 19.

Dewch o hyd i lythrennau Mandarin.

Edrychwch ar y calendr traddodiadol Tsieniaidd.

Pa flwyddyn gawsoch chi eich geni? Pa anifail sy’n cynrychioli’r flwyddyn cawsoch chi eich geni?

Tynnwch lun o’r anifail. Ysgrifennwch enw’r anifail yn Gymraeg a Mandarin.

Cymharwch eich gwaith gyda gwaith eich partner.

Er mwyn clywed sut i ddweud rhai o’r anifeiliaid yn Mandarin, cliciwch yma: https://www.youtube.com/watch?v=BuFWrgDVeis

HER: Ysgrifennwch misoedd y flwyddyn yn Gymraeg. Dewiswch anifail neu flodyn gwahanol ar gyfer pob mis.

Mesur Hyd a Lled

[rhifedd]

2

Edrychwch ar dudalen 15.

Beth yw hyd Wal Fawr China?

Ydych chi wedi rhedeg milltir? Beth am roi cynnig arni? Pa mor bell fydd rhaid i chi redeg o gwmpas yr ysgol?

Edrychwch ar y clip fideo:
https://thedailymile.co.uk/type/video/

Defnyddiwch ffon fesur i fesur rhai gwrthrychau yn eich dosbarth.

Mesurwch hyd a lled y gwrthrychau. Cofiwch amcangyfrif y mesurau yn gyntaf!

HER: Afon Tywi yw afon hiraf Cymru. Mae’n 75 milltir o hyd (120 km). Dewch o hyd i ffeithiau diddorol am hyd afonydd, uchder mynyddoedd ac adeiladau yn eich ardal leol, yng Nghymru ac yn y byd. Cofnodwch eich ffeithiau mewn tabl. Rhannwch eich ffeithiau gyda gweddill y grŵp/dosbarth.

Blwyddyn Newydd China

[celf/crefft]

3

Edrychwch ar dudalen 8.

Dewch o hyd i ba anifail sydd yn cynrychioli blwyddyn Newydd China eleni.

Roedd Mei wedi cael gwahoddiad i ddathlu Blwyddyn Newydd China yng nghartref Min. Mae llawer o bobl o gwmpas y byd yn hoffi dathlu Blwyddyn Newydd China.

Cliciwch ar y clip fideo yma i weld sut mae pobl yn dathlu Blwyddyn Newydd China:
https://youtu.be/sDHJhfkQHEI

Beth am ddathlu Blwyddyn Newydd China yn yr ysgol? Ewch ati i wneud rhai o’r addurniadau yma:

Creu pyped draig Tseiniaidd

  • Peintio 2 ddarn o bren
  • Clymu llinyn rhwng y 2 bren a chlymu darnau byr o rubanau lliw ar hyd y llinyn
  • Ychwanegu wyneb i un ochr ac mae gennych ddraig sy’n dawnsio!

Coginio nŵdls a rhoi cynnig ar eu bwyta nhw gyda gweill bwyta (chopsticks)!

Gwneud lampau papur coch! https://www.youtube.com/watch?v=CeZKYGmuZn0

Creu cerdyn i ddathlu Blwyddyn Newydd China

Gwneud amlenni coch a’u haddurno

HER: Mwynhewch ddathlu Blwyddyn Newydd China yn yr ysgol! Beth am greu draig enfawr a dysgu’r ddawns? Rhowch gynnig ar esbonio i’r ysgol gyfan sut mae dathlu Blwyddyn Newydd China.

TAI CHI

[symud/chwaraeon]

4

Edrychwch ar dudalennau 13 ac 16.

Beth sy’n digwydd? Beth mae’r plant yn ei wneud?

Mae llawer o bobl a phlant o gwmpas y byd yn hoffi gwneud Tai Chi.

Cliciwch ar y clip fideo yma i weld sut mae dysgu Tai Chi:
https://www.youtube.com/watch?v=lZL4GksXrOg

Dysgwch ychydig o symudiadau Tai Chi.

Sut oeddech chi’n teimlo ar ôl gwneud Tai Chi? Pam?

Edrychwch ar dudalen 16.

Beth ydy enw’r gêm sy’n cael ei chwarae yno?

Cliciwch ar y clip fideo i ddysgu sut mae chwarae’r gêm.
https://www.youtube.com/watch?v=tRCb_LOkEmQ

HER: Beth am ddysgu rhai symudiadau Tai Chi i ffrind neu aelod o’ch teulu? Oes gwersi Tai Chi i’w cael yn eich ardal leol?

Bywyd bob dydd yn China

[dyniaethau]

5

Disgrifiwch i’ch partner beth rydych chi’n ei weld


Cliciwch ar y fideo i weld sut mae diwrnod ysgol yn China.
https://youtu.be/iDwWGjExVak

Sut mae bywyd mewn ysgol yn China yn debyg ac yn wahanol i ysgol yng Nghymru?

Mae llawer o bethau o'n cwmpas yn cael eu gwneud yn China. Maen nhw ar werth yng Nghymru hefyd. Ceisiwch ddod o hyd i bethau sydd wedi cael eu gwneud yn China yn yr ysgol ac yn eich cartref.

HER: Mae anifeiliaid prin yn byw yn China, er enghraifft y panda. Beth am ddarganfod mwy am y panda a pham ei fod mor brin? Ydych chi’n gallu gwneud rhywbeth i ofalu amdano?