Edrychwch ar dudalen 6.

Dewch o hyd i beth yw ‘Helo’ ac ‘Hwyl Fawr’ yn Portiwgaleg.
Allwch chi ddweud ‘Helo’ ac ‘Hwyl Fawr’ yn Portiwgaleg?
Cliciwch ar y clip fideo yma i’ch helpu:
https://www.youtube.com/watch?v=pc0GRj-ec9s
Beth am geisio cyfri o 1 i 10 yn Portiwgaleg!
Cliciwch ar y ddolen i’ch helpu:
https://www.youtube.com/watch?v=TwbXFMLptRQ
Beth am chwarae rôl Min a Mei yn dysgu Portiwgaleg yn yr ysgol. Mewn grwpiau o dri, bydd angen i un chwarae rôl yr athrawes, a’r ddau arall i chwarae rôl Min a Mei.

Mae llawer o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad yn Brasil.
Sawl iaith ydych chi’n gallu siarad?
HER: Sawl iaith ydych chi’n gallu siarad nawr? Beth am geisio dweud ‘Helo’ mewn 4 iaith! Beth am geisio cyfri i 5 mewn mwy nag un iaith!
Edrychwch ar dudalen 7.
Dewch o hyd i ba mor fawr ydy coedwig yr Amason.
Afon Amason ydy’r ail afon hiraf yn y byd. Mae dros 4000 milltir (6437km) o hyd!
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am afon Amason.
https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b0bx73pk/earths-great-rivers-series-1-1-amazon
https://easyscienceforkids.com/where-is-the-amazon-river-video-for-kids/
Beth ydy enw afon hiraf Cymru? Beth ydy hyd afon hiraf Cymru?
Beth ydy enw’r afon agosaf i’ch ysgol? Beth ydy hyd yr afon?
Edrychwch ar dudalennau 8 a 9.
Mae’r Amason yn gartref i nifer o anifeiliaid diddorol a pheryglus!

Dewiswch un ohonynt.
Tynnwch ei lun ac ychwanegwch ffeithiau diddorol, e.e. pwysau, hyd, sawl coes?
Mae’r tywydd yng Nghoedwig Law yr Amason yn boeth ac yn wlyb.
Yn aml iawn, mae’r tymheredd yn uwch na 27°C trwy’r flwyddyn.
Beth am ddefnyddio thermomedr i fesur y tymheredd heddiw o gwmpas yr ysgol!

Ydy’r tymheredd yn is neu’n uwch na thymheredd Coedwig Law yr Amason?
HER: Beth am ymweld â choedwig neu afon yn eich ardal? Beth yw hyd yr afon? Sawl km/milltir a gymrodd i chi gyrraedd y goedwig/afon? Mesurwch y tymheredd wrth yr afon/yn y goedwig. Edrychwch o’ch cwmpas. Gwrandewch ar y synnau. Tynnwch luniau rhai o’r anifeiliaid/adar/pysgod rydych yn eu gweld yno.
Edrychwch ar dudalennau 18 ac 19.
Rhestrwch yr holl bethau a welwch ar y tudalennau.

Gwyliwch y fideo i glywed y gerddoriaeth ac i weld pared ysgolion Samba.
https://www.youtube.com/watch?v=lIF2eyUNpBc
Beth am ddathlu carnifal Rio de Janeiro yn y dosbarth/yn yr ysgol.
Beth am wneud masgiau a/neu ddefnyddio hen ddefnyddiau o’r gornel chwarae rôl/ berfformio?
Am syniadau ar gyfer y gwisgoedd, gallwch wylio rhan o ffilm Rio / Rio 2 neu edrych ar y fideo hwn: https://www.bbc.co.uk/bitesize/clips/zmtfgk7
Peidiwch ag anghofio creu’r gerddoriaeth gan ddefnyddio offerynnau taro!

Mae Carnifal Rio de Janeiro yn cael ei gynnal bob blwyddyn cyn y Grawys.
Sut rydyn ni’n paratoi ar gyfer y Grawys yng Nghymru?
Beth rydyn ni’n ei fwyta ar ddydd Mawrth crempog? Beth ydy’r enw ar y dydd Mercher ar ôl Dydd Mawrth Crempog?
HER: Beth am roi gwahoddiad i’r ysgol gyfan/aelodau o’r gymuned i’ch carnifal Rio de Janeiro. Cofiwch am y gerddoriaeth. Cofiwch ddawnsio a mwynhau yn y carnifal! Oes carnifal yn eich ardal chi? Ydych chi erioed wedi bod mewn carnifal? Ble? Beth welsoch chi?
Edrychwch ar dudalen 16.
Beth mae Min a Mei yn ei wneud?

Beth am ddysgu dawnsio Samba?
Cliciwch ar y fideo:
https://www.youtube.com/watch?v=GW0iYnFFVo
https://www.youtube.com/watch?v=XCYw-6-Tzso
Edrychwch ar dudalennau 20 a 21.
Ble mae Min a Mei? Beth sy’n digwydd yno?
Cliciwch ar y fideo i weld stadiwm pêl-droed mwyaf Brasil:
https://www.youtube.com/watch?v=czADVzY5yvE
Dewch o hyd i ffeithiau diddorol am bêl-droed yn Brasil.
Gwelodd Min a Mei bobl yn chwarae pêl-foli ar y traeth yn Brasil.
Cliciwch i weld pobl yn chwarae pêl-foli yn Brasil:
https://www.youtube.com/watch?v=k4ux0jau_ws
Beth am ddysgu sut i chwarae pêl-foli? Cliciwch ar y fideo:
https://www.youtube.com/watch?v=OwcIiLfpQvI
HER: Beth am gymharu chwaraeon Brasil a Chymru? (e.e. pêl-droed, rygbi, tennis). Beth sy’n debyg a beth sy’n wahanol rhyngddyn nhw? Dewch o hyd i ffeithiau diddorol am y chwaraewyr a’r gemau.
Gwelodd Min a Mei lawer o bethau diddorol wrth deithio drwy Brasil.
Beth am greu llyfr ‘WAW’ am Brasil!
Edrychwch ar dudalennau 4, 8, 12, 13, 14.

Disgrifiwch i’ch partner beth rydych chi’n ei weld.
Edrychwch ar dudalen 10 ac 11.
Pam bod angen gofalu am goedwig law yr Amason? Beth allwn ni wneud?

Sut mae bywyd bob dydd yn Brasil yn debyg ac yn wahanol i fywyd bob dydd yng Nghymru?
Teithio? Tai? Bwyd? Ysgol? Chwaraeon? Anifeiliaid?

HER: Beth sydd i’w weld yng Nghymru?
Pa 6 pheth fyddwch chi’n dymuno i bobl Brasil ei weld yng Nghymru?
Beth am greu poster neu daflen wybodaeth sy’n cynnwys ffeithiau hwyl am Gymru?